Sgyms C2
Hei - su' ma'n mynd?
Ma hi’n bnawn Gwener a ma criw C2 a Radio Cymru yn paratoi i fynd mas i ddweud ffarwel wrth ddau o’r tim sy’n hedfan y nyth - sef Gwennan Evans (JK Rowling Cymru - ie hi nath sgwennu’r nofel Bore Da) a Daniel Williams (a odd yn Y Promatics.... So ma fe fel uuhh.. Justin Bieber Dyffryn Nantlle... falle)
Felly fyddai mas heno - ond un o’r pethe cynta’ nai neud yn hwyr pnawn Sadwrn pan dwi’n deffro - yw gwrando nôl ar raglen Gwilym Rhys sy ar C2 am 6.30 heno. Ma eitem ‘da fe o’r enw Y Sgyms sef rhyw fath o holiadur i fyfyrwyr ynglŷn â’i bywyd cymdeithasol, carwriaethol a gyda phwyslais mawr ar lendid neu wendid glendid
Ahhh - dyddiau sgymi coleg... dyddiau da...
Sôn am ddyddie da - Taith Ysgolion yn dechre wythnos nesa. Ysgol Llanhari amdani fore Iau! O ran y Daith Ysgolion eleni, fe fydd pethe ychydig yn wahanol achos nid yn unig fydd kidz Cymru yn ymddangos ar raglenni C2, cael sylw ar ein safle gwe, ond hefyd mi fydda nhw yn torri ar draws rhaglen Daf a Caryl yn y bore, a Nia Roberts neu Tudur Owen yn y pnawn. Dwi’n ffyddiog eith popeth yn iawn ddydd iau - ond ma Tomos Morse, cynhyrchydd C2 a chyn ddisgybl Llanhari yn rhegi bob yn ail air, felly ma na phosibilrwydd neith cynulledfa Nia dagu ar eu paneidiau wrh wrando ar y rhaglen pnawn Iau.... pwy a wyr... sdim ond un ffordd o wbod....gwrando!


Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.