Unnos Gwyl Dewi 2012 - Y Blog olaf!
I 6 cerddor dewr, mi oedd dod yma heno ar noson naid i recordio Sesiwn Unnos Gwyl Dewi yn mynd i fod yn sialens a hanner. Roedd 'ne daith gerddorol anferth o'u blaene, a siwrne greadigol ac emosiynol yn wynebu pob un ohonyn nhw. Tydi 12 awr ddim yn amser hir o gwbwl i grwp gyfansoddi, recordio a rhyddhau EP, heb son am orfod neud hynny efo artistiaid nad oedden nhw'n eu hadnabod o gwbwl. Ond efo'u gilydd, fe lwyddon nhw i asio'n gerddorol, a chreu rhywbeth go ryfeddol.
Mae bod yn eu cwmni dros nos wedi bod yn brofiad sy'n annodd iawn crynhoi mewn geirie. Swreal un funud, hudolus y nesa. Ond mae'n deg deud 'mod i wedi fy nghyffwrdd gan y cyfan. A fel rhywun sy'n caru cerddoriaeth, mae fy mharch tuag atyn nhw fel cerddorion yn aruthrol, ac mi all pob un ohonyn nhw ar ddiwedd noson hir a chyffrous iawn o recordio ymfalchio gymaint yn eu gwaith.
Felly diolch o waelod calon i Carwyn Elis, Georgia Ruth Williams, Eryl Jones, Sion Richards, Euron Jones a Luca Gwernieri am fod mor angerddol, ysbrydoledig a brwdfrydig. Mae hi wedi bod yn bleser pur cael bod yn ran o'r cyfan, a gobeithio bod chi hefyd wedi mwynhau. Felly gen i a chriw Sesiwn Unnos Gwyl Dewi 2012, mae'r gwely yn galw, nos da!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.