« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos Gwyl Dewi 2012 - Blog1

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|19:50, Dydd Mercher, 29 Chwefror 2012

Gyfeillion, mae'r foment fawr wedi cyrraedd! Dwi 'di bod yn edrych 'mlaen at hyn ers wythnose, ac mae Sesiwn Unnos Gwyl Dewi wedi dechre.

Da ni 'di cloi 6 cerddor dewr a hynod o dalentog yn y stiwdio recordio, a dwi'n bersonol yn meddwl bod o'n gyfuniad sy'n mynd i weithio'n eithriadol o dda. Carwyn Elis, Georgia Ruth Williams, Eryl Jones, Sion Richards, Euron Jones, a Luca o Colorama. Mae'n nhw wrthi yn creu ers ryw ddwy awr, ac mae'r gerddoriaeth hyd yma yn swnio'n arbennig.

Mae'n gamp a hanner, a dwi'n amlwg yn dymuno'r gore iddyn nhw gyd. Ac yn dawel bach, dwi'n gwbwl ffyddiog y bydd gandda ni un o'r EPs gore erbyn 6 bore fory.

Reit, coffi arall?! Lis x