« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Sesiwn Unnos Gwyl Dewi2 - gofynion technegol

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|22:42, Dydd Mercher, 29 Chwefror 2012

Newydd weld y nodyn yma gan Llion Gerallt, un o'r peiriannwyr, am ochr dechnegol Unnos!

Lis

x

Gofynion Technegol Unnos

1 Stiwdio

2 Stafell reoli

Llond llaw o feicroffons, cables a clustffonau

2 Desg 02R 96

2 Apple Mac G5 yn rhedeg Pro Tools 7.3.1

4 Camera Sony Z1

1 Cymysgydd lluniau TV One

1 Llinell IP lawr i Gaerdydd ar gyfer sain a llun

3 peirianydd blewog

Proses recordio

Recordio ar system aml drac yn gyntaf, mae pob offeryn yn cael ei recordio yn lan ar ei drac unigol ei hun.

Chwarae mix heb ei orffen yn ol i'r person sydd yn cani er mwyn recordio'r llais yn lan.

Mi fydd yr ail beirianydd yn cymeryd y traciau i gyd o'r peiriant recordio ac yn ail gymysgu y cyfan yn yr ail stafell reoli.

Mi fydd y caneuon gorffenedig yn cael ei trosglwyddo i wefan C2.