Huw Stephens yn Abbey Road!
Heno am 10 bydd rhaglen arbennig gyda Huw Stephens o Abbey Road!
Yn ddiweddar fel rhan o weithdai BBC Introducing fe estynodd C2 wahoddiad i rai o gerddorion ifanc fwyaf addawol Cymru ymweld a'r stiwdio chwedlonol yn Llundain. Mewn diwrnod yn llawn seminarau a sesiynau dysgu cafodd Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Rhydian Lewis (Creision Hud), Catrin Herbert a'r cynhyrchydd Hywel Pitts gyfle i gyfarfod a holi rhai o gerddorion, cynhyrchwyr a chyhoeddwyr amlycaf y diwydiant.
I ddysgu mwy am BBC Introducing cliciwch yma!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.