« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Uchafbwyntia' Wythnos Lisa Gwilym

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|21:50, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011

Dyma i chi ambell uchafbwynt o'r wythnos sydd wedi bod!

- Albym newydd Huw Haul (sef grwp Huw o Lanbrynmair sy'n astudio'r haul!) o'r enw "Dyn o'r Coed". Edrych 'mlaen i chware mwy o draciau wythnos nesa' achos hon fydd 'Albym yr Wythnos'.

- Cwmni Gruff Jones - Crash Disco - nos Iau i sôn am Wyl Offerynau Taro cynta' Cymru sy'n digwydd yn y Galeri penwythnos nesa. Oedde chi'n gwybod bod gan Gruff radd 8 mewn offerynau taro?! Mae o hefyd yn brysur iawn yn gweithio ar EP, ac wedi gwneud ailgymysgiad gret o "Y Gwir" gan Kronwall

- Can i bobol ar ddeiet (!) - sengl newydd Poket Trez, "Ffati Bwm Bwm"! Ac yn cadw cwmni i Coco, Dr Feelgood a Lenki ar y sengl mae Swci a Mr Phormula (allan yn ddigidol Gorffennaf yr 8fed)

- Ond wrth gwrs, y geiriosen ar ben y gacen fel petai, oedd cyrraedd gwaith dydd Llun a gweld copi o "Uwchben y Drefn" ar fy nesg, llawenydd! Wedi misoedd o edrych 'mlaen at gael clywed pedwerydd albym y Sibrydion, roeddwn i 'chydig bach yn nerfus, achos does dim byd gwaeth na chael eich siomi gan un o'ch hoff fandie. Ond fel fase chi'n ei ddisgwyl gan un o fandie gorau Cymru, mae'r swn yn arbennig iawn. Mae'r albym yn debycach i'r albym ddwetha "Campfire Classics", nac i'r albym gynta "Jigcal". Sglein cynhyrchu, caneuon hynod fachog, rhai llawn gitars roc, eraill yn acwstig ac yn arafach. Mae'r tiwns 'di bod yn mynd rownd a rownd yn fy mhen, ac am hynny, dwi'n deud diolch o waelod calon i'r Sibrydion am gampwaith arall. Methu aros i weld y caneuon yn cael eu chwarae yn fyw !

Lis x