« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Newyddion Am Castell Rock

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|08:55, Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011

Newydd gyrraedd gwaith, a dyma ebost sydd newydd ein cyrraedd!

Lis

x

Mae dyddiad newydd ar gyfer Castell Rock, sef Dydd Sadwrn Awst 6ed 2011, yn dilyn y gohirwyd ar Gorffennaf 16 yn sgil y rhubydd o dywydd gwael .

Cynhelir yr ŵyl deuluol hon, a fydd yn fwrlwn o fiwsig di-baid a gweithgareddau i'r plant, ar safle bendigedig Castell Aberystwyth gyda golygfeydd gwych dros Fae Ceredigion. Ar ben hyn oll mae popeth yn rhad ac am ddim. Bydd y canwr-cyfansoddwr Meic Stevens yn cloi'r noson eleni a fydd llwyth o fandiau cyfroes yn berfformio yn ystod y dydd.

Bydd y cyngerdd yn dechrau am un o gloch ac yn gorffen gyda machlud yr haul gyda cymaint o fandiau a phosib yn perfformio yn ystod yr amser hynna - bydd un band yn gadael y llwyfan a'r nesaf yn barod i berfformio o fewn amser byr iawn.



Am ragor wybodaeth Ebostiwch [email protected]

www.castellrock.co.uk

www.myspace.com/castellrock