« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Tywydd braf a Hufen Iâ Poeth

Categorïau:

Ifan EvansIfan Evans|19:39, Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2011

Wel helo fawr iawn i chi gyd. Gobitho bo chi wedi cal penwythnos wrth eich bodd ac wedi neud y mwya o'r tywydd braf.

Ma gennai ddigon ar eich cyfer chi heno fel arfer achos fy ngwestai arbennig i fydd Aeron Pughe o'r band Hufen Iâ Poeth. Mae en actio, canu, arwain nosweithiau llawen a ffermio - a dweud y gwir mae en gallu neud bach o bob dim! A hefyd mi fydd Owain Llŷr yma yn edrych yn ôl ar chwaraeon y penwythnos. Cofiwch wrando felly rhwng deg a hanner nos.