« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Rhwbeth I bawb heno

Categorïau:

Ifan EvansIfan Evans|15:47, Dydd Mawrth, 4 Ionawr 2011

Reit de, yn gynta - blwyddyn newydd dda i chi gyd, a gobitho bod pawb wedi cal Nadolig neis!

Ges i amser bendigedig yng nghanol yr eira ma rhaid gweud, yn stwffo yng ngheg fawr bob dydd - ac yn dyw y gwyliau'n mynd yn gloi bois! Ond stim ots achos mae'n bleser bod nôl a ma genai raglen arbennig ar eich cyfer chi heno.

Fy ngwestai arbennig yw un o actoresau mwya poblogaidd Cymru, sef Mali Harries. Mae 'di ymddangos mewn llwythi o raglenni fel Casualty, Holby city, Dr Who, Pen Talar, Caerdydd, Ar y Tracs a lot, lot mwy. Ac wrth gwrs ma Owain Llyr yn ôl gyda digon o hwyl o fyd chwaraeon.

Rhwbeth I bawb heno, felly cofiwch wrando am 10!





Mali Harries ac Ifan Evans

Mali Harries ac Ifan Evans