« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Nôl mewn un darn!

Ifan EvansIfan Evans|16:55, Dydd Mawrth, 18 Ionawr 2011

Wel helo bawb, a gobitho bo chi gyd yn iawn? Braf iawn yw bod nôl gyda chi, ond brafiach byth yw'r ffaith fy mod i mewn un darn, achos wthnos dwetha fues i yn yr Eidal gyda grwp o ffrindiau yn sgio am y tro cyntaf erioed.

Mae'n rhaid i fi gyfadde mae dyna oedd y gwylie gore dwi erioed wedi gal - a do erbyn y trydydd diwrnod nes i lwyddo mynd lawr llethr du! Y syndod mwya yw'r ffaith fy mod i dal mewn un pishyn.

Ond dwi yma unwaith eto yn barod i'ch diddanu rhwng 10pm a 12am heno. Mi fyddai'n cael lot o ddwlu a chwerthin yng nghwmni Owain Llyr fel arfer a fy ngwestai arbennig i heno yw'r gohebydd gwleidyddol Carl Roberts, felly gobitho fydd ganddo fe 'chydig o storis difyr am wleidyddion Cymru ar ein cyfer ni heno.

Felly cofiwch wrando am 10. Ciao