Fideo: Can newydd gan Y Polyroids!
A hithau newydd toc wedi 2 o'r gloch y bore bellach, mae pethau'n mynd yn dda - dwy gan wedi eu recordio gan Y Polyroids heno (Griff ac Osh o Yr Ods, Gwion Llewelyn, Gerallt Ruggiero, a Carwyn Kim De Bills) yn barod.
Un gan hynod, hynod o fachod (sydd yn ddi-enw ar hyn o bryd), can acwstig dywyll am golli pres ar y Roulette (sydd hefyd yn ddi-enw ar hyn o bryd) ac mae nhw wrthi yn ymarfer y drydedd can, sydd yn swnio'n llawer iawn trymach na'r ddwy arall... ddweud y lleiaf! Ar ben hyn i gyd, mae Carwyn a Gerallt yn cychwyn gweithio ar ail-gymysgiadau o ddwy o'r caneuon yn fuan.
Dyma ragflas o'r hyn sydd i'w ddisgwyl o heno - fersiwn fyw o'r gan acwstig newydd.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.