Artist clawr EP unnos
Artist gwadd yr wythnos yma ydi Monso "monsito" Monson - Cymro o ardal Aberystwyth sy'n byw yn Barcelona. Mae e'n gweithio yn y byd ffasiwn i gwmniau fel Zara, Next a Converse ac ma ganddo'i linell ffasiwn ei hun, bego4monso. Un o'i hoff ddisgrifiadau o'i hun ydi hwn, gan y cylchgrawn 'abuse' - "monsomonson is not just an artist...he's a mental state!"
Roedd Monso'n gweithio'n galed ar waith celf y clawr tra'n cael blas o waith y band drwy wylio camerau gwelif byw o'r stiwdio ar wefan Unnos.
Dyma sylwadau Monso ar gydweithio ar Sesiwn Unnos -
"fi 'di mwynhau mâs draw...mae'r project wedi agor fy llygaid ar y byd miwsig. Mae'n fraint cael gweld pobl fel Gwilym a Steffan yn y stiwdio yn recordio'n fyw...ac yn fraint cael siawns i arlunio'r EP! O ni 'di clywed gwaith Gwilym ar youtube, rwy'n edrych am miwsic Cymraeg yn amal oherwydd chi ddim yn clywed lot fan hyn yn Sbaen!! Ac rwyn siwr fy mod i wedi gweld gwyneb Steffan rownd Caerfyrddyn pan on i'n coleg yna!! Mae project Unnos Radio Cymru yn project arbennig iawn, prosiect sydd yn gwthio byd miwsic i pethau newydd!
Ac mae'n rhoid pwyslais ar yr athroniaeth bod wastad amser i neud y pethau chi wastad eisiau neud!! Fel arluniwr mae hi'n bleser rhannu prosiect gyda'r cerddorion ac wrth gwrs gyda Radio Cymru! Diolch yn fawr am feddwl ohona i!! "



Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.