« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

3.20am - bron a gorffen recordio caneuon Cowbois a Karen

Categorïau:

Criw C2Criw C2|03:20, Dydd Mercher, 12 Ionawr 2011

Mae hi'n ganol nos/gynnar yn y bore, ac mae Cowbois Rhos Botwnnog a'r bardd Karen Owen wedi llwyddo yn anhygoel! Oce - mae angen gwneud cwpl o betha eto - 'overdub' llais ar un gan, ac ella trwmped ar un arall, ond mae'n nhw wedi llwyddo i gyfansoddi a recordio PUMP can! Mae'r cyfan wedi bod yn hynod ddi-drafferth - yn drefnus, llyfn a chymharol ddi-gynwrf. Mae'r caneuon yn hyfryd iawn - mae dwy yn siwr o fod yn 'hits' radio. Reit, yn ol i'r stiwdio i orffen un neu ddau o fanion, ac yna i gymysgu. Hefo ychydig o lwc, bydd y recordio wedi ei orffen erbyn 3.45am, a'r cymysgu wedi ei wneud erbyn tua 6.00am, felly mi ga i wely cynnar/hwyr!

Hwre

Gar