Rhaglen newydd Lisa
Bore da bawb! Dwi wrthi'n paratoi at fy rhaglen newydd heno... ydw, dwi 'nol ar C2, ac mi fydda i 'mlaen bob noson o'r wythnos rhwng 8 a 10yh. Be fydd gen i? Wel, os oedde chi'n mwynhau fy "hen" raglen i ar C2, dwi'n gobeithio y gwnewch chi fwynhau hon hefyd! Mi fydd yna ddigon o gerddoriaeth wych - heno ma' 'na bethe newydd sbon gan Cowbois Rhos Botwnnog, Mr Huw, Jonny, Pete Lawrie a The Gentle Good, felly dwi'n edrych ymlaen at hynny...
Os NAD yda chi wedi clywed fy rhaglen i o'r blaen... wel, croeso!! Mi fydd 'na ddigon o hwyl, lot o fiwsic i gadw pawb yn hapus, a cofiwch bod yna groeso i chi gysylltu drwy'r dydd ar ebost neu Facebook, neu heno ar y tecst - 67500 neu'r ffôn - 03703 500 500.
Reit, welai chi am 8pm!
Lis
x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.