« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Richard James

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|09:52, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010

Neithiwr ar fy rhaglen roedd Richard James yn westai. Mae Rich ar fin rhyddhau ei ail albym, We Went Riding ar label Gwymon, ei gartref newydd. Mae;r albym yn un gwych, wedi ei chynhyrchu yn fentrus gan Iwan 'Recall' ac yn cynnwys llwyth o offerynnau wedi eu chwarae gan amryw o gerddorion talentog, yn cynnwys cyn Gorky gyda Rich Euros Childs yn canu, Sion Glyn a Andy Fung.

Yn fyw mae Richard James yn llwyddo i fod yn bersonol ac agos atoch yn ogystal a cael pobl i symud, rhwybeth sydd yn amlwg ar yr albym newydd hefyd. Mae dyfnder a phrydferthwch yn ei ganeuon personol, ond mae positifrwydd y gerddoriaeth yn atal yr albym rhag bod yn un rhy drist. Gwrandewch eto ar y sgwrs gyda Rich a tracie oddi ar yr albym newydd YMA.