« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Glasto

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|10:22, Dydd Iau, 24 Mehefin 2010

Fi'n mynd i wyl Glastonbury penwythnos yma! Ydw i wedi fy nghyffroi yn lan? Do, do wir.

Mae'n wyl hudolus, mor dda a mae pawb yn dweud, ac yn eitha amhosib disgrifio i ddeud y gwir.

Os chi byth yn cael y cyfle, ma rhaid i chi fynd. Mae'n werth e i weld pa mor enfawr ydi'r wyl; mae fel dinas arall, ond yn llawn pethe gwych a gwallgof. Pan ma' pobl yn gofyn pwy fi'n edrych mlaen i weld yn chware, mae'n anodd ateb achos ma tua 2000 o fandie'n chware.

Bron iawn allech chi fynd yno heb weld un band penodol, achos ma gymaint o bethe erill i neud yno.

Ond fydd Snoop Doggy Dog, Yr Ods, Stevie Wonder, The XX, Dirty Projectors a Masters in France ar dop fy rhestr eleni.

Gallwch chi glywed dwy raglen wedi eu recordio yn Glasto ar fy rhaglenni nos Lun a nos Fawrth wthnos nesa.