Archifau Mawrth 2010

Rhodri Evan - Hemo yn y cefn!

Hefin ThomasHefin Thomas|16:49, Dydd Mercher, 31 Mawrth 2010

Sylwadau (0)



Na dim byd I neud a troi gwaelod eich trwsus I fyny; 'Hemo' yw un o'r amrywiol eiriau tafodiaethol gorllewinol sy'n golygu taro neu fwrw (tybed pam fod gymaint o eiriau gorllewinol am ymladd - atebion ar gerdyn post!).



Ta beth, 'hemo yn y cefn' oedd disgrifiad Rhodri Evan, actor sy'n enwog am ei rôl yn Cowbois ac Injans a Scrum4, o'i rôl yn drymio i fandiau roc DOM, Cerrig Melys a Canol Caled yn ystod y nawdegau. Nes i fwynhau cael ei gwmni yn y stiwdio nos Lun i son am 'Pentalar' y gyfres ddrama newydd y bydd yn ymddangos ynddi ar S4C cyn hir. Buon ni hefyd yn trafod y posibilrwydd o weld goreuon DOM yn y dyfodol a stwff newydd gan Cerrig Melys o bosib. Allwch chi glywed y cyfweliad gyda Rhodri ar yr IPlayer, cliciwch

yma.

Cofiwch wrando nos Lun nesa' (Gwyl y banc) hefyd am gyfweliad gyda Rhydian a Rhiannon (Ritzy) o'r Joy Formidable. Ma' nhw 'di bod yn brysur iawn ar daith gyda bandiau fel Temper Trap ac yn y stiwdio yn ddiweddar gyda'r sengl Popinjay yn dod allan ddydd llun.



Joiwch y Pasg!

Hxxx

Efrog Newydd

Huw StephensHuw Stephens|10:10, Dydd Llun, 29 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Nos Lun a nos Fawrth ar C2, gallwch chi glywed dwy raglen fi wedi recordio allan yn Efrog Newydd. Dwi wedi bod yn Austin, Texas ar gyfer gwyl South by South West eto eleni. Hon ydi'r chweched flwyddyn i fi fod allan yn gweld y bandiau newydd, y rapwyr a'r dj's, a mae tua 5000 yno bob blwyddyn yn chware mewn clybie, bar, caffis a unrhyw le lle ma band yn gallu ffitio.

Eleni nes i weld gymaint o fandiau newydd da; roedd y safon yn uchel iawn.



Roedd yr uchafbwytniau yn cynnwys sawl band o Brooklyn, Efrog Newydd; Bear in Heaven, Real Estate a Beach Fossils ymysg y goreuon. Bandiau da, balch a gwerth gwrando arnynt.



Gallwch chi ddarllen fy mlog ar safle BBC yn Cyflwyno

FAN HYN.

nyc1.JPG



Ar ôl bod yn Texas, nes i adael am Efrog Newydd. Fi di bod yn recordio rhaglenni dogfen allan yma am gerddoriaeth y ddinas anhygoel yma, a wedi cwrdd a Armand Van Helden y dj ar cynhyrchydd, James Murphy o LCD Soundsystem a The Drums, un o'r bandiau (fel MGMT a Vampire Weekend) o Brooklyn. A Styles P, rapiwr o Yonkers yn Efrog Newydd. Es i i weld gig Cate le Bon yn y Mercury Lounge hefyd, oedd yn dda iawn.

nyc2.JPG

Ar y rhaglen nos Lun bydd Lowri Price a Rheinallt Williams sy'n byw yn Efrog Newydd yn ymuno a fi i son am fywyd yn yr Afal Mawr. Nos Fawrth bydd Cate le Bon a Steve Sweet Baboo sydd ym mand Cate yn dod mewn i sôn am South by South West a'i gig cyntaf yn Efrog Newydd! Fyddai'n chware llwyth o bethe da a tiwns am NYC hefyd.

nyc3.JPG

nyc4.JPG

I gyd tra'n gwisgo het hip hop.

Badminton

Glyn WiseGlyn Wise|10:56, Dydd Iau, 18 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Ym Mis Ionawr eleni, mi osododd criw C2 her i mi sef i wynebu un o fawrion y gem badminton, Richard Vaughan.

Roedd y her yn un cyffrous iawn a chefais y cyfle i ymarfer yn erbyn rhai o enwogion Cymru yn y gamp, a dyna lle dechreuodd y hwyl.

Y rownd gyntaf oedd yng Ngogledd Cymru, cefais gem wych ac anodd i ddechrau yn erbyn Gethin Evans o Gofod yn ennill 15-8, yna gem hwylus gyda Ywain Gwynedd 15-5, a gem 15-2 yn erbyn Tudur Evans Uned 5. Mae'r sgôr yn dweud y cyfan.

Lowri Morgan oedd y gwrthwynebwraig galetaf, er i mi ei churo 15-10, roedd rhaid i mi slamio'r bluen lawr ochr y cwrt er mwyn ennill.

A chwarae Tim 'Wedi 7' oedd y gem waethaf, yn curo 15-1 gyda Nei Karadog a Nia yn gweld hi'n anodd i gael y pluen drost y net.

Roedd ceisio curo Richard Vaughan yn her amhosib.

Roedd yr holl sgiliau angenrheidiol ar gyfer ennill efydd yn gemau'r gymanwlad a chwarae yng ngemau olympaidd ganddo. Bu i mi golli 21-10 yn y set gyntaf a pan oedd hi'n 14-6 yn yr ail set, fe ddechreuodd y waliau symud, roedd fy nghalon yn pwmpian 100 milltir yr awr a roedd rhaid i mi adael y set ar ei hanner. Agorais ddrysau'r allanfa dân y ganolfan hamdden a chwydu'r holl fwyd oedd yn fy mol, roedd o'n olygfa afiach. Ond, es yn ol ar y cwrt a ennill 5 pwynt arall cyn i mi golli'r gystadleuaeth.

Mae o wedi bod yn her anhygoel - i gyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o Sport Relief sydd yn digwydd dros y penwythnos. Mae'n rhaid i mi gyfaddef, dwi wedi mwynhau yn fawr.

x

O.N - Mae lluniau a fideos o'r holl ymgyrch ar wefan C2

Y Tatŵ mwya' cŵl erioed

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|12:39, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

Sylwadau (3)

tatw_dat.JPG

Dyma lun o'r tatw mwyaf' cŵl fi wedi gweld mewn amser hir. Sara Datblygu sydd bia'r fraich, ac ar ei braich mae tatŵ o logo Datblygu, y band cwlt nath creu argraff enfawr ar lwyth o bobl, o Rhys Mwyn i Super Furry Animals. Mae Sarah mewn band o'r enw Wet Dog. Dyma fi gyda nhw yn ddiweddar.

sara_dat.JPG

Sioe Feinyl mis Mawrth

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|12:13, Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Helo!

Dyma luniau o'r recordiau chwaraewyd ar y sioe feinyl arbennig ar Fawrth 1af!

DSCF0925.JPG

DSCF0923.JPG

DSCF0926.JPG

Cael eich cerddoriaeth ar C2...

Categorïau:

Gareth Iwan|13:16, Dydd Llun, 1 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Helo bawb

Bore ma, mi fues i'n rhoi sgwrs bach i fyfyrwyr cerddoriaeth Coleg Menai. Y pwnc oedd "sut i gael eich cerddoriaeth ar y radio", ac mi oeddwn i'n meddwl falla bydda fo'n ddefnyddiol ei roi o ar flog C2 rhag ofn fod na ambell fand newydd awydd ychydig o "tips".

Hwyl

Gar

Byddwch yn dda!

Gorchymyn ychydig yn amwys, ond triwch wneud yn siwr o hyn drwy wneud y canlynol:

• Gwnewch yn siwr fod rhywun tu allan i'r band yn gwrando ar y caneuon cyn eu gyrru. Dim ffrindiau na theulu! Yn ddelfrydol, rhywun gonest hefo ychydig o brofiad cerddorol.

• Gigs - chwaraewch yn fyw i wella, ond hefyd i gael adborth gan y gynulleidfa a threfnwyr gigs.

• Gwrandewch ar eich cerddoriaeth gefn wrth gefn hefo rhai o'ch hoff artistiaid. Sut 'da chi'n cymharu?

• Peidiwch â brysio - cymrwch eich amser i ddatblygu fel artist. Peidiwch o reidrwydd â gyrru y peth cyntaf i chi ei recordio

• Dim "cover versions"!

Adnabod y rhaglenni

• "Peidiwch â gyrru emynau i Kerrang". Gwrandewch ar yr orsaf, a pheidiwch â gyrru cerddoriaeth gwbl anaddas i orsaf/cynhyrchydd/DJ.

• Gwrandewch ar raglenni ar y BBC iPlayer - lle fydda'ch cerddoriaeth yn gweddu ora?

• Dewch i adnabod chwaeth gwahanol gyflwynwyr. Gwrandewch ar wahanol raglenni ac edrychwch ar y rhestrau chwarae ar y we. Targedwch gyflwynwyr cerddoriaeth newydd- Lisa Gwilym, Huw Stephens, Adam Walton, a Bethan Elfyn.

Ymarferol

• Mae cyswllt personol yn bwysig. Ffoniwch, ebostiwch neu sgwennwch lythyr yn bersonol at y DJ. Triwch beidio gyrru ebyst cyffredinol i fileoedd o bobol!

• O ran gyrru demos - gyrrwch un gân, eich cân orau. Yn sicr peidiwch â gyrru mwy na thair cân.

• Mae gyrru ebost o mp3 yn gyfleus - ond eto, gwnewch yn siwr ei fod yn bersonol.

• Gyrrwch y caneuon ryw bedair wythnos cyn y dyddiad rhyddhau.

• Manylion sydd eu hangen: enw'r artist a'r traciau, dyddiad rhyddhau a rhif ffôn - rhowch rhain ar glawr y CD ei hun.

• Gyrrwch fywgraffiad byr o'r band.

• Os ydych chi'n hyrwyddo albwm, awgrymwch gân neu ddwy fel man cychwyn ar y gwrando.

• Peidiwch â phoeni hefo clawr/gwaith celf - tydy hynny ddim yn bwysig, cyn belled â bod y CD yn edrych yn broffesiynol.

• Cofiwch ffonio neu ebostio ryw wythnos ar ôl ei yrru i gael ymateb.

• Os ydech chi'n canu yn Saesneg, triwch y BBC uploader!

Does dim gwarant y caiff y caneuon eu chwarae hyd yn oed os wnewch chi hyn i gyd, ond mae'n le da i ddechrau...