« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Sesiwn Unnos "Sŵn Du" ar gael nawr

Categorïau:

Criw C2Criw C2|08:20, Dydd Mercher, 3 Chwefror 2010

Clawr yr EP

Neidiwch draw i wefan C2 nawr i glywed y pump trac gan "Sŵn Du", ein hartistiaid Sesiwn Unnos yr wythnos yma - Ynyr Roberts o Brigyn, Mei Mac y bardd a Rhodri Davies y Telynor. Mae'r EP hefyd yn cynnwys trac wedi ailgymysgu ar y noson gan Geraint Ffrancon.

  1. Unnos
  2. Ffilm (Byw fy mywyd)
  3. Dinistr (Hyll o fyd)
  4. Darlun (Dacw fi)
  5. Re-mics (Hanner Nos)



Roedd Huw Evans yma dros nos hefyd yn pryfocio a phoenydio ein gwesteion - felly cofiwch wrando ar y rhaglen Sesiwn Unnos heno am 10pm ar C2 Radio Cymru neu ar yr iPlayer hollalluog.

Neu cariwch mlaen i ddarllen y blog yma i weld be ddigwyddodd ar y noson - wrth iddo ddigwydd!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:53 ar 3 Chwefror 2010, Geraint Ffrancon ysgrifennodd:

    falch gweld eich bod chi gyd wedi goroesi. 5 trac yn hanner albym, job da! dwi'n hoffi 'Dinistr' a 'Darlun' yn enwedig. nos da/bore da/pnawn da