Mwstash Jonsi - Llio Rhydderch - Dyl Mei a Ffrwchnedd
Ma pethau'n symud ymlaen yn arbennig o ara deg wythnos yma ond da ni'n dechre gweld ffrwythau bach blasus, llafur ein tri gŵr gwadd. Natho' ni gychwyn efo sŵn gitâr gweddol arferol yn chwarae cyfres o gordiau, a nawr ma Rhodri Davies newydd ddefnyddio telyn a 'chwisg creu swigod mewn llaeth' i greu sŵn sy'n debyg i Llio Rhydderch yn jamio ar ôl ugain coffi efo Björk.
'Sgen i ddim syniad be' ma Mei Mac di bod yn i 'neud ond ma na fwstash newydd ymddangos ar lun Jonsi ym mhrif fynedfa'r BBC, ddim bo fi'n pwyntio bysedd na dim byd.
STOP PRESS! Ma Mei Mac newydd ymddangos yn y swyddfa efo geiriau'r gân gyntaf (a marker pen du dros ei fysedd), gan adael i Dyl wbod fod nhw'n weddol arbrofol.
Ai rhaglen wythnos yma fydd chimera y gyfres Unnos? Neu ydyn ni ar ganol clywed carreg filltir cerddoriaeth Cymraeg yn cael ei osod? Pwy sy'n mynd i lanhau llun Jonsi? Ac ydi Ynyr Roberts yn mynd i droi yn llwyr ymwrthodwr ar ôl gweld Dyl Mei yn bwyta ffrwchnedd gyda gwên ar ei wyneb?
Yr atebion i'r cwestiynau yma i gyd ar rhaglen Sesiwn Unnos nos yfory am 10pm.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.