Caneuon y Ddegawd!
Wrth i ni ddod i ddiwedd y dim degau, ma na restrau di ri o'r bobl mwya' dylanwadol, y ffilmiau gorau, y gadgets mwyaf cŵl ayyb ym mhob cylchgrawn y gwelwch chi. Felly wythnos hon ma criw C2 wedi holi chi y gwrandawyr, yn ogystal a nifer o leisiau adnabyddus eraill, am eich barn chi ar 'Ganeuon y Ddegawd' fel ein thema cerddorol.
Yn aml y feirniadaeth gyntaf sy'n dod i feddwl wrth greu rhestrau o'r fath yw 'ar ba sail mae dewis?'. Ma'n hoff ganeuon i yn gallu newid yn llwyr yn dibynnu ar lle ydw i, be dwi'n ei wneud, pwy sydd gyda fi, beth yw'r tywydd a sut hwyl sydd arna i heb sôn am pa ganeuon sy'n digwydd dod i'r côf ar y pryd.
Ta waeth am hynny, y peth gorau am restrau o'r fath yw'r ddadl sy'n codi yn sgil y penderfyniadau mae pobl yn ei wneud ac wrth gwrs y cyfle i gofio am ganeuon da chi heb glywed ers sbel! Yn sgil hyn dwi di dod lan a'n hoff ganeuon Cymraeg i o'r ddegawd....
1.Pep le Pew - Y da, y drwg ac yr hyll
2.Texas Radio Band - Chwaraeon
3.4 Wal - Cofi Bach a Tew Shady
4.Gofyn - Frizbee
5.Jakokoyak - Murmur
6.Mozz - Edrych ar y merched
7.Promatics - Colli Cyfle
8.Kentucky AFC - Unarddeg
9.Ashokan - Diolch am ddal y gannwyll
10.Tricky Nixon - Paid a gofyn
Ma croeso i chi anghytuno - mi fydda i di newid fy meddwl erbyn fory ta beth!
Cofiwch hefyd wrando ar sioe arbennig yn edrych nôl ar gryno ddisgiau gorau 2009 gyda Ian Cottrell a Lyndsey Anne ar nos Lun yr 28ain o Rhagfyr am 11 o'r gloch!
Dolig Llawen!
Hxxx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
am neud sylw ar "Ddeg y Ddegawd" (https://www.bbc.co.uk/cymru/cerddoriaeth/hanes/deg-y-ddegawd.shtml) dwi, a dim ond cynnig ryw lond llaw o CDs eraill sy'n llawn haeddu mensh' o ran albyma' gora'r ddegawd. (yn fy marn bitw i, yn unig)
Anweledig - Gweld y Llun (2000)
Pep Le Pew - Un Tro yn y Gorllewin (2004)
Texas Radio Band - Baccta' Crackin' (2004)
Gruff Rhys - Yr Atal Genhedlaeth (2005)
Plant Duw - Y Capel Hyfryd (2008)
Rhaid mi gytuno bod na' berlau yn y'ch rhestr chi - dim ond biti 'sa 'na 15 neu 20 y ddegawd 'de!
Be am
Yucatan - Yucatan
Mr Huw - Llond Lle o Hwrs a Lladron
?