Pencampwriaeth Gitar Awyr!
Yn syth ar ôl darlledu'n fyw o gefn Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala fe wnes i yrru adref i ddal y tren bore i Lundain. Roeddwn wedi anghofio fy mod i'n mynd lawr yno i gymeryd rhan mewn cystadlaetaeth 'air guitar'. Dwi wastad yn edrych ymlaen i fynd i Lundain, ond y tro yma, roedd cael chwarae gitar awyr ar lwyfan a gwneud bob math o giamocs yn swnio'n hwyl - pa mor anodd all hynny fod?
Cefais ymarfer chwarae gitar gyda Peredur y gitarydd o Pendelum. Roedd o'n foi hilariws a rhoddodd gitar a plectrwm aer i mi, funny - dwi'n gwybod! Ond, roedd cyrraedd yr O2 yn Llundain yn brofiad od. Od yn y ffaith fod pobl yn cystadlu mewn cystadleuaeth chwarae gitar hud, ac od fod cymaint o bobl yn talu i ddod i weld y fath beth. Roedd o fel talu i fynd i Bedlam yn yr oes Victoria! Dynion a merched mewn oed yn cogio chwarae gitar ar lwyfan roc! Doeddwn i methu credu'r peth! Roedd rhai ohonynt wedi ymarfer ers misoedd a wedi gwisgo fel seren roc, gyda enw ffansi fel 'y diafol' a' Miss rock.' Fe cgrddais i ar y llwyfan dan yr enw Glyn Thomas Wise - roc a rol ta be! Rhoddais fy mag dychmygol ar y llawr, tynnu y gitar dychmygol ai rhoi o fy amgylch a rocio i'r anthem genedlaethol mewn fflag Cymru. Roedd booian y dorf yn ofnadwy, a mi oedd pobl yn lluchio poteli cwrw atai- roedd yn brofiad bythgofiadwy!
Cefais 4 allan o 10 gan y beirniaid, roedd yr holl beth yn od! Mae yno adloniant i bawb, ond roedd hyn yn rhywbeth gwallgo. Roeddwn yn cael fy booian ar lwyfan ac roeddwn i yn ceisio chwarae gitar doedd ddim yno. Pwy ddyfeisiodd y gystadleuaeth - plentyn?
Fi ddaeth yn olaf o'r 16 oedd yn cystadlu, ond mwynheais y diwrnod, roedd yn rywbeth newydd nad oeddwn erioed wedi dychmygu gwneud. Gallaf ddweud wrth bawb mai fi yw'r 16eg chwaraewr gitar awyr gorau ym Mhrydain - dyna yw fy claim to fame, hahahahahahahahahahaha! xx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.