Cyrraedd Steddfod - o'r diwedd!
Dwi'n sgwennu hwn tu allan i'r garafan yn y maes carafanau.
Nesh i gyrraedd Seddfod ddoe - ond mi oedd gweddill criw C2 yma ers ddydd Gwener. Wedi methu cwpwl o nosweithiau da - a lot o waith dal fyny!
Dwi'n bwriadu mynd i wefan C2 i weld lluniau a fideos o ddechrau'r wythnos.
Heno mi fydd C2 yn darlledu rhwng 12 a 2 y bore, a bydd cyfle i glywed set byw gan Derwyddon Dr Gonzo.
Tywydd yn lyfli heddiw, ond hynny'n golygu fod y plant yn y maes carfannau i gyd allan ar ei beics. Ma swn y beics yn mynd dros y tracs metal sydd ym mhob man ddim y ffordd gorau o ddeffro.
Neithiwr mi oeddwn i yn gig CYIG yn y Plas Coch yn gwylio Gareth Bonello a Al Lewis Band, a mi oedd hi hefyd yn noson meic agored - rhai ohonyn nhw yn dda iawn, eraill fel deuawd Trystan Mosgito a El Parisa angen mwy o ymarfer!
Nes i alw draw i Maes B neithiwr hefyd, a weles i rai o'r bandiau oedd yn perfformio yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B.
Llongyfarchiadau mawr i After an Alibi o Lanberis a wnaeth ennill. Edrych ymlaen i glywed sesiwn C2 ganddyn nhw yn fuan.
Ar y ffordd i'r maes rwan i gael dipyn o ginio a gwylio Al Lewis, Brigyn a Pwsi Meri Mew.
Ella welai chi yna.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.