« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Fideo 'Madrach' - swreal a gwych!

Robin Owain JonesRobin Owain Jones|21:52, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009

Yr wythnos yma, Hywel Pitts oedd artist 'Gwyliwch y Gofod' - sef cyn-brif leisydd y band ifanc, gwych 'Dirty Words'.

Yn ogystal a hynny, mae'r ail-bit newydd yn parhau - sef y slot ychwanegol lle dwi'n son rhywfaint am fideo gan fand Cymraeg sydd i'w wylio ar y wê.

Fideo swreal ond gwych i'r gân 'Madrach' gan Derwyddon Dr Gonzo gafodd sylw yr wythnos yma, ac mi ges i sgwrs efo Ifan Dafydd o'r band am ei atgofion o ddiwrnod ffilmio'r fideo ar gyfer 'Bandit' nol yn 2007. Dwi wedi chwerthin gymaint wrth wylio'r fideo, lle mae'r actor Huw Marshall yn actio rhan y prif gymeriad - dyn torri gwallt sydd ddim yn gwneud job rhy dda ohoni - a thrio dyfalu pa un o aelodau'r band yw pwy, o dan eu dillad rhyfedd a'u gwalltiau gwirion!

Ewch draw i gael golwg ar y fideo drostoch eich hunain - mae wir werth cymeryd golwg arno: Fideo Derwyddon Dr Gonzo - Madrach

Mi fydda'i nol ar C2 nos Fawrth nesaf, gyda band neu artist 'Gwyliwch y Gofod' arall, ac mi fydd fideo gwych arall yn cael sylw yn yr 'ail bit newydd'. Yn y cyfamser, mwynhewch y fideo i 'Madrach' - a chofiwch fod Derwyddon Dr Gonzo yn rhyddhau eu halbym gyntaf 'Stonk' ar Orffennaf 27ain, ac yn cloi pethau ym Maes B, Eisteddfod y Bala fis nesa.

Dwi methu disgwyl!

Rob.