« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dim byd 'ffishi' am fideo'r Threatmantics!

Robin Owain JonesRobin Owain Jones|22:03, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009

Helo unwaith eto!

Braf iawn oedd cael sgwrs efo Heddwyn o'r band 'The Threatmantics' ar C2 heno, a chael peth o'i atgofion o am ffilmio'r fideo gwych ar gyfer y gan 'Wedi Marw'.

Gwyliwch fideo y Threatmantics - Wedi Marw

Mi gafodd o'i ffilmio bron i dair mlynedd yn ôl i gyd-fynd a rhyddhau y sengl ddybl-A-ochrog (!) Sali Mali / Wedi Marw, ac werth ei wylio - i weld Heddwyn yn socian wedi i fwceidiau o ddwr gael ei luchio drosto, ac i weld aelodau'r band yn cael eu tarro yn eu wynebau gan bysgod go iawn (hynny yw, dim pysgod ffug)!

Newyddion gwych i holl ffans y Threatmantics allan yna, mae nhw am fod yn cychwyn gweithio ar ei hail-albym tua mis Medi, ac mae cryn dipyn o ganeuon Cymraeg am fod ar yr albym newydd yma.

Band Gwyliwch y Gofod yr wythnos yma yw Wyn Williams - ewch draw i wefan C2 i gael rhagor o fanylion ac i weld y linc i'w dudalen myspace.

Tan yr wythnos nesa,

Rob.