« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Chwarter Call yw'r 'Cŵn Argae' Cymreig

Robin Owain JonesRobin Owain Jones|21:14, Dydd Mawrth, 21 Gorffennaf 2009

Wythnos arall wedi fflio, a bellach... dim ond 10 diwrnod sydd i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009!! Methu'n glir a disgwyl, a bydd criw C2 yno am yr wythnos gyfan yn darlledu o gefn-llwyfan Maes B, gan ddod a'r gorau o gigs Maes B a gigs Cymdeithas yr Iaith i chi - a lot, lot mwy o hwyl y 'Steddfod... ond mwy am hynny ar C2 dros yr wythnos nesaf 'ma.

Y fideo gafodd sylw yn yr ail-bit (neu 'Gwyliwch y Fideo' fel dwisho ei alw fo - ddim yr enw mwyaf bachog, felly helpwch fi plis!) oedd Chwarter Call - Cana Gan.

Mi ffilmwyd y fideo ar gyfer Uned 5, gyda'r band ifanc o ardal Llangefni yn edrych yn smart iawn mewn siwtiau 'Reservoir Dogs'-aidd. Mi allwch chi wylio'r fideo yma:

Chwarter Call - Cana Gan

Artist 'Gwyliwch y Gofod' yr wythnos yma yw 'Aran Fôn' - gyda'i gan hafaidd, fachog, amserol iawn, 'Carafan'. Gallwch weld manylion tudalen myspace Aran Fôn drwy fynd i adran 'Gwyliwch y Gofod' ar wefan C2.

Reit, dwi'n mynd adra i lanhau fy welis ar gyfer y 'Steddfod!

Hwyl am y tro,

Rob.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:22 ar 21 Gorffennaf 2009, Robin ysgrifennodd:

    Cyn i neb arall ddweud dim byd - newydd sylwi ar fy nghamgymeriad! 'Cronfa Ddwr' yw 'Reservoir' wrth reswm, ac nid 'Argae'! Wedi bod yn ddiwrnod hir! 'Argae' sydd yn creu 'Reservoir' - na 'chi Wenglish da!

  • 2. Am 12:07 ar 23 Gorffennaf 2009, Hefin Thomas ysgrifennodd:

    Cwn Cronfa achan!