« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Rhaglen newydd Emyr Glyn Williams - cerddoriaeth '79 i '97

Categorïau:

Criw C2Criw C2|16:43, Dydd Llun, 1 Mehefin 2009

Helo

Nos Fercher am 10pm ma na raglen newydd ar C2 - Emyr o gwmni recordiau Ansktmusic yn "edrych ar y gerddoriaeth a rhyddhawyd yn Nghymru rhwng y ddau refferendwm i weld os oes modd taro goleuni ar be ddigwyddodd i droi y 'NA' yna nol yn 1979 i fewn i'r 'IE' yna yn refferendwm 1997."

Mae Emyr yn un o'r bobol oedd yng nghanol cerddoriaeth Cymru yn y cyfnod, ac mae ei atgofion yn ddifyr, a'i farn yn ddiddorol a dadleuol. Fel rhagflas, ac efallai fel pwnc trafod, dyma ddarn o'r sgript Y rhaglen gyntaf, sy'n edrych ar y cyfnod yn syth ar ol refferendwm '79:

"Wrth gwrs yn y siop leol hefyd mae 'na lot fwy o recordiau dwi ddim isio prynu na recordiau sydd yn denu fy sylw. Ma' unrhyw record Gymraeg sy'n cynnwys dyn efo barf neu fwstas ar y clawr neu offeryn traddodiadol neu griw mewn 'neckerchief' yn instant turn off.

Hefyd ma'r ochr werin 'ma i ddiwylliant cerddoriaeth Cymraeg wedi bod yn ddirgelwch llwyr i mi erioed - mae o'n rhy debyg i jazz - steil o gerddoriaeth sy'n codi'r artist llawer uwch na'r gynulleidfa - y teimlad 'na fod nhw'n rhan o rhyw clwb ecscliwsif sy'n ymestyn yn nôl i berfeddion amser a waeth byth yw'r ffaith fod y cerddorion i weld yn mwynhau eu hunain llawer mwy na'r gynulleidfa - tydi hyn ddim yn wir am ganu pop a roc a dyna lle ma'r gyfres yma yn mynd i ganolbwyntio.

So sori o flaen llaw i'r rhai allan yna sy'n credu mai'r gitâr acwstig a'r canwr sensetif efo'i galon waedlyd yw gwir ddrych artistic ein cenedl - not in my book it ain't. Jarman said it best - wrth gwrs - 'y rocars ar gwalltie cyrliog yw dyfodol Gwalia nawr.'

Hefyd ma' 'na rywbeth sinister i mi am rai o'r artistiaid sensetif gwerin ma, pobl fel Hergest,Tecwyn Ifan, Dafydd Iwan,Mynediad am Ddim a llawer mwy. Rhyw deimlad fod nhw yn trio indoctrinatio fi efo eu cerddoriaeth adferol hudolus sy'n adleisio rhyw oes aur yn y gorffennol - bypassing my pleasure zones and brain and heading straight for some imaginary Celtic heart beating inside me."

Yn amlwg mae'r dyfyniad yma allan o'i gyd-destyn, ond gadewch eich sylwadau, a cofiwch am y rhaglen am 10pm nos Fercher!

Cofion

Gar

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:15 ar 2 Mehefin 2009, Szczeb ysgrifennodd:

    byddaf innau, am un, yn gwrando, gyda chlust agored a meddwl agored. yn yr un modd ag y byddaf yn gwrando ar ganu gwerin da a jazz da...

    ... heb gymryd eiliad o sylw o'ch "indoctrinatio" rhagfarnllyd Saesneg!

    "The Welsh just ain't always cool enough for his anti-Celtic beating heart".

  • 2. Am 11:35 ar 4 Mehefin 2009, Dafydd Iwanynyglaw ysgrifennodd:

    Gwir pob gair, Emyr, heblaw am dy farn ar y Ficar - "Allan o Diwn" yn albym efo'r un lefel o egni a chreadigrwydd a "One Step Beyond"

  • 3. Am 23:51 ar 5 Mehefin 2009, rich o ysgrifennodd:

    pwy arall fyddai yn gallu cyfuno phillip k dick efo slagio off tecwyn ifan?

    diddorol iawn.

    roedd jos wastad yn dweud fod pob yn ail gan gan grwps yr wythdegau cynnar yn gorfod cynnwys y lein 'rocio yn y dafarn efo chdi' .

    wyt ti wedi dweud wrth med rhewl i wrando?

    edrych ymlaen at rhan 2.

    be oedd y trac pynci 'na yn y canol?llygod ffyrnig?