Penblwydd Hapus Daniel Glyn!
Helo,
Wel, dim ond un arholiad sydd gen i ar ôl yn y brifysgol, mae'r flwyddyn gyntaf wedi mynd yn andros o sydyn. Mae'n teimlo fel dim ond ddoe y wnes i ddechrau yno.
Cymaint o brofiadau gwych megis, noson roller-disgo'r 60au, mynd allan fel bin-bag, achubwr bywyd, morleidr, seren porn, milwr etc. Gwych!
Mor braf yw adolygu yn yr haul, mae gen i linell mawr yn lle mae siap fy siorts a fy fest ar fy ngorff sy'n edrych yn wirion.
Mwynheais barti pen blwydd Daniel Glyn yn nhy Caryl Parry Jones ddydd Sadwrn.
Dwi erioed wedi gweld cymaint o bobl sy'n gwethio yn y cyfryngau Cymraeg mewn un lle. A na, nid oedd yno ffraeo o gwbl. Gwelais Rhys Ifans yno a dywedais fy mod in ffan mawr o 'The Boat that Rocked' a dywedodd yn ôl 'dyle chdio weld fwy o ffilmiau' haha! Roeddwn i yno gyda criw c2 sef Magi, Robin a Siân. Ond, fe wnes ffwl o fy hun gan eistedd ar gadair pren yn fler a'i thorri'n ddarnau. Roedd o fel golygfa mewn ffilm gomedi, lle mae rhywun tew yn malu'r gadair gan fod gormod o bwysau arno. Er hynny, roedd o'n ddiwrnod arbennig, Penblwydd Hapus mawr Daniel Glyn, gobeithio wnest di fwynhau!
Glyn x

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
"Cymaint o brofiadau gwych megis, noson roller-disgo'r 60au, mynd allan fel bin-bag, achubwr bywyd, morleidr, seren porn, milwr etc."
Noder - doedd Glyn ddim yn gwisgo lan y nosweithie yma - fuodd e mas - yn llythrennol fel bin bag (pobol yn taflu sbwriel ato, achubwr bywyd (anodd anghofio'r job gynta) a seren porn....siwr welwch chi'r fideo yna ar ryw safle gwe doji cyn bo hir (ho ho ho)