Penwythnos Mawr!
Penwythnos dwytha ro'n i yn Swindon ar gyfer Penwthnos Mawr Radio 1. Mae'r wyl deuddydd am ddim, gyda 20,000 o bobl yne. Ro'n i yn rhedeg rhwng y pedwar llwyfan; djo ar y llwyfan awyr agored (ar ol Tim Westwood oedd yn dipyn o brofiad), cyflwyno Doves mewn siwt colomen (eto, bach yn rhyfedd) a cyflwyno ar lwyfan BBC yn cyflwyno. Yn ffodus roedd hwn bach yn fwy arferol i fi. Band o Swindon, Beatbullyz, gath yr ymateb gore siwr y fod. Mae gweld band o'ch ardal yn gneud yn dda wastad mynd i fod yn beth pleserus. Yn enwedig pan mae Billie Piper oedd yr un dwytha llwyddiannus. Roed Bethan Elfyn yno i gyflwyno Gallops! o Wrecsam, nath gig gwych iawn gyda'i math-roc difyr. Allwch chi weld y fideos fan hyn; www.bbc.co.uk/radio/bigweekend Nes i neud dipyn o 'sbotio selebs' hefyd, a'r un mwya oedd Glyn Wise, oedd yn rhedeg allan o'r bar cefn llwyfan pan weles i e. Helo Glyn!
Penwythnos yma fi ar y ffordd i Brighton, lle ma gwyl Great Escape mlaen. Mae'n wyl sy'n digwydd mewn lleoliadau rownd y ddinas, cannoedd o fandiau, a'r mor yn gefndir iddo i gyd. Nai chware uchafbwyntie ar y rhaglen nos Lun.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.