« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Siopau Recordiau, a John Cale

Categorïau:

Gareth Iwan|10:16, Dydd Iau, 16 Ebrill 2009

Dydd Sadwrn yma mae hi'n ddiwrnod Siopau Recordiau Annibynnol, ac mewn siopau ar draws Cymru fe fydd na gigs a gwahanol weithgareddau yn cael eu cynnal i ddathlu cyfraniad siopau bychain i'r sin gerddorol yng Nghymru.

Mi fydd Andy's yn Aberystwyth, Cob ym Mangor, Diverse Music yng Nghasnewydd a Spillers yng Nghaerdydd yn dathlu'r diwrnod, a gadewch i ni wybod os da chi'n ymwybodol o fwy o ddigwyddiadau.

Ma fy nyled i'n bersonol yn fawr i griw recordiau Cob. Mae Owen a'r hogia wedi fy nghyflwyno i fathau o gerddoriaeth na fyswn i fyth wedi dod ar eu traws o'r blaen, a dyna werth siop fechan; medru mynd i fewn am sgwrs, a dod allan hefo CD neu LP gan grwp nad yde chi erioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen. Dyma dwi am ei wneud dydd Sadwrn - pam na wnewch chi yr un peth? Mynd i'r siop leol a gofynwch am CD nad yde chi erioed wedi clywed amdano. Gewch chi sgwrs ddifyr ac agoriad llygaid, gobeithio.

Dwi hefyd isho rhoi 'plug' bach i raglen arall Lisa Gwilym y Sioe Gelf. Os oeddech chi yn gwylio The Apprentice neu Hell's Kitchen neithiwr, mae'n debyg i chi golli cyfweliad Lisa hefo John Cale ar y Sioe Gelf. Roedd hi'n eitem ddifyr iawn, ac yn dipyn o "scoop" iddyn nhw. Mi fedrwch chi wylio'r rhaglen yn fama.

Heno ar raglen C2 Lisa - caneuon newydd sbon gan y Stilletoes, a sgwrs hefo trefnwyr Gwyl Gopr Amlwch.