« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

O le daw headliners blwyddyn nesa?

Criw C2Criw C2|19:20, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Hefin

Nath edefyn ar Faes-e yn cwyno am stâd y sin gerddorol Gymraeg fy ysbrydoli i sgwennu fy mlog cynta i C2 felly dyma ni...



Mae'n amser bach digon diddorol i'r sin gerddorol Gymraeg ar y funud - transition phase fel bydde rheolwr pêl droed yn dweud falle. Roedd 2008 yn flwyddyn hynod brysur a llwyddiannus o ran niferoedd yr albyms a gafodd eu rhyddhau ond roedd hefyd yn ddiwedd cyfnod wrth i fandiau profiadol fel Y Rei, Anweledig, Genod Droog, Frizbee a Swci Boscawen roi'r gitar yn y to.



Serch hynny, ers i fi ddechrau cyflwyno ar C2 dwi wedi synnu cymaint o diwns gwych gan fandiau newydd ifanc sydd o gwmpas ar y funud. Am bob un o'r hen stejars sydd wedi mynd i'r aftershow party mawr yn y nefoedd ma na fand ifanc sydd â thraciau cystal os nad gwell ar eu Myspace, er enghraifft Yr Ods, Creision Hud, Wyrligigs, Byd Dydd Sul, Nos Sadwrn Bach, Just Like Frank, Adrift, Zimmermans ayyb. Felly o ran cynnyrch wedi'i recordio dwi'n meddwl fod na ddigonedd o ddewis o stwff da ar gael.



Ochr arall y geiniog yw'r gigs sy'n digwydd (neu ddim yn digwydd!). Tra bod ambell grwp fel Brigyn yn brysur tu hwnt (7 gig ym mis Ionawr, 3 yn Chwefror) dwi'n dueddu i feddwl fod llai o brysurdeb gigs i gymharu â'r blynyddoedd diweddar. Yr hyn sy'n taro fi yw nad oes llawer o gigs yn digwydd sy'n cynnwys y bandiau ifanc uchod. Y broblem gyda hyn wrth gwrs yw tra fod headliners fel Derwyddon (oedd yn wych yn ICA Llundain wythnos dwetha gyda llaw), Sibrydion, Plant Duw a Gwibdaith yn gallu tynnu torf ar y funud, beth sy'n digwydd os ma rhain yn chwalu?



O le y daw'r headliners nesaf felly? Atebion ar gerdyn post plis...

Hefin Thomas

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:24 ar 6 Mawrth 2009, Hefin Jones ysgrifennodd:

    Dadansoddiad teg a thrylwyr. Mae'n beth iach fod yr olwyn yn troi ond rhaid gwylio fod o ddim yn troi'n rhy gyflym, fel ti'n ddeud yn dy gasgliad. Efallai fod trefnwyr, yn enwedig tu allan i'r trefi mawr, yn chwarae hi'n rhy ofalus a ddim yn rhoi cyfle i'r grwpiau newydd.

    Ond mae'n dda gweld cymaint yn cyrraedd y fath safon mor sydyn- byddwn i'n hoffi adio Promatics https://www.bbc.co.uk/cymru/c2/safle/sesiwn/cynnwys/promatics.shtml

    yn enwedig i'r rhestr yna