« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dwi isho bod yn filwr..

Glyn WiseGlyn Wise|19:34, Dydd Mercher, 28 Ionawr 2009

Mae pawb yn y BBC wedi cael llond bol arnaf yn siarad am y TA sef Y Fyddin Diriogaethol. Cefais diwrnod gwych a rwan rwyf bron iawn ac ymuno. Bore dydd Llun aeth fi, Magi D, Robin ac Owain y cynhyrchydd i Meindi baracs yng Nghaerdydd. Roedd y lle yn llawn o filwyr a pob adeilad wedi ei orchuddio mewn lliw cami. Roedd o fel golygfa mewn ffilm. Cymerais rhan yn y gweithgareddau ffitrwydd, lle roedd rhaid gwneud press-ups a sit-ups, dal pwysau trwm ac yna roedd rhaid gwneud y cwrs antur! Dwi erioed wedi chwerthin cymaint yn gweld Magi yn llusgo ei hun drwyr mwd. Rhaid i mi gyfaddef, roeddwn yn sioc gyda baint o dda oedd hi, ond bechod na allaf ddweud yr un peth am Robin. Roedd ei wyneb yn goch i gyd a roedd bron a llewygu wedi iddo basio y llinell derfyn. Diwrnod i'w gofio a gallai ddim aros nes y sioe heno i ddweud y hanes i gyd.

Glyn x

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:19 ar 29 Ionawr 2009, Beti ysgrifennodd:

    Dwi ddim yn gwybod lle i ddechre efo'r blog uffernol yma.

    Ydi Glyn wir yn meddwl ar ol diwrnod o redeg ar gwrs antur ei fod o eisiau bod yn filwr! Mae o'n swnio fatha plentyn 5 mlwydd oed.

    Ac mae o wedi'i sgwennu fatha rhywun o ysgol gynradd hefyd!

    Dewch yn eich blaenau C2!

  • 2. Am 13:50 ar 29 Ionawr 2009, Heddychwr ysgrifennodd:

    Beth sydd mor wych am gael dy hyfforddi i ladd, neu cynorthwyo eraill i ladd, oll gan fod gwleidyddwyr yn dweud felly? Achos ei fod yn dianc cyfraith gwlad?

    Os tisio gwneud ymarfer corff, ymarfera ar gyfer gystadleuaeth 'Ironman' neu gamp olympaidd. Oleiaf wedyn fedri di gydnabod dy werth gyda rhywbeth adeiladol.

  • 3. Am 18:09 ar 29 Ionawr 2009, Rhys Llwyd ysgrifennodd:

    Dwi'n meddwl fod yna un peth bach yn fywyd y milwr wyt ti wedi anghofio amdano yng nghanol dy hwyl: mae milwyr yn cael ei hyfforddi i ladd pobl ac maen nhw yn lladd pobl. Dwi ddim yn meddwl fod hi'n addas i siarad am weithagredd milwyr felly yn yr ysbryd ffwrdd a hi yma yn enwedig ar donfeddi a gwefannau y BBC, gwasanaeth y trethdlawyr. Gair i gall. Rhys x