« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Caneuon newydd Y Llongau

Categorïau:

Gareth Iwan|16:42, Dydd Mawrth, 6 Ionawr 2009

Helo bobol

Dwi wrthi'n gwrando ar sesiwn newydd Llongau i raglen Lisa, ac mae'n hollol wych. Llongau ydy prosiect newydd (ish) Dyl Mei, ac mi ddylwn i ddeud yn syth mod i wedi gweithio lot hefo Dyl yn ddiweddar felly mae'n bosib nad ydw i'n gwbl ddi-duedd OND mae'r caneuon yn gret. Fel sa chi'n ei ddisgwyl mae'r cynhyrchu yn anhygoel - ma na ambell i foment gwirioneddol epig ar y caneuon, ond yn ddifyr iawn ma na hefyd adega lle ma'r geiria falla'n dangos ochr mwy bregus, emosiynol i Mr Dyl Mei. Ma na swn eitha llawn i'r caneuon - samples llinynnol, gitars, piano ayyb, ond does dim o ochr bombastic y Genod Droog yn fama - mae'n swnio'n llawer mwy didwyll. Dwi'n ama cewch eich synnu, a'ch siomi ar yr ochr ora.

Mi fydd y sesiwn ar raglen Lisa nos Wener nesa, Ionawr 16.

Hwyl

Gar