« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Sibrydion yn sengl yr wythnos R2

Categorïau:

Gareth Iwan|09:31, Dydd Mawrth, 16 Rhagfyr 2008

Helo bobol

Fyddwn i ddim yn argymell i chi wrando ar unrhywbeth ond Magi Dodd am 8pm, ond rhaid llongyfarch Sibrydion ar gael sengl yr wythnos ar raglen Radcliffe And Maconie. Mi oedd Osh a Mei hefo Lisa yn ddiweddar yn son am yr album a'r sengl, ac mi fydd Lis yn chwarae mwy o'r caneuon nos Iau a nos Wener.

Mi fues i'n noson lansio The Dressing Gown Goddess, album newydd Gwilym Morus nos Wener. Noson hyfryd - llond bol o lobscows, glasiad bach o win, ac yna set gan Gwilym a'r band. Er fod un o dannau gitar Gwilym wedi torri yng nghanol y set, dwi'n meddwl fod pawb wedi mwynhau. Gewch chi glywed rhai o'r caneuon byw ar C2 yn gynnar mis Ionawr