« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cip-olwg nol dros 2008...

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|17:05, Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008

Wel helo. Wele fy mlog.

Dyma ni ar ddiwedd (bron iawn) blwyddyn anturus sydd wedi gweld pethau da a pethau drwg yn digwydd I'r byd yn gyffredinol, mae'r rhaglenni ar C2 yn naturiol dueddol o adlewyrchu be sy wedi bod yn dda yn ein byd o gerddoriaeth Gymraeg a rhyngwladol wych.

Cyfle i fwynhau albym cyntaf ag olaf Genod Droog (Ni Oedd Y), The Gentle Good, EP Cate le Bon, Y Diwygiad, albym anhygoel Eitha Tal Ffranco, Messner a gymaint mwy...

Ar yr ochr albyms rhyngwladol, bydde 09 wedi bod yn llymach le heb MGMT, Vampire Weekend, Fleet Foxes a Bon Iver, The Dodos heb os, bob un yn fand o America. Roedd albyms Neon Neon, Wild Beasts, Lykke Li, Los Campesinos a Elbow yn rai hynod o wych hefyd, a'r band Wild Beasts o Leeds yn fand nath ddim torri drwodd ond wedi creu argraff mawr arna i.

Ar fy rhaglenni rhwng nawr a Dolig hefyd gallwch glywed tiwns Nadoligaidd, o'r gwych i'r gwirion. Fi'n casglu nhw drwy'r flwyddyn, felly mae digon i ddewis ohonyn nhw!

Roedd sesiwn diweddar Alun Tan Lani C2 yn wych iawn. Mae Sesiwn newydd gan y Promatics i'w ddarlledu nos Lun nesa (15ed Rhagfyr) - mae hi'n hynod o bwerus hefyd.

Cadwch yn gynnes.

xhx