Y Daith yn parhau.....
Ielo,
Dyma fi yn swyddfa foethus C2 ym Mangor. Mae'n posh iawn yma a lot neisach na swyddfa Caerdydd. A ma wastad siocled yma felly fi yn fwni hapus (ond tew) iawn ar hyn o bryd.
Fi yma achos ma bws Taith Bandit C2 wedi glanio yn y Gogledd. Nethon ni lanio yn Ysgol Eifionnydd, Porthmadog ddydd Llun. Wel - am ysgol HYFRYD. Roedd y disgyblion yn hyfryd. Mor gwrtais, creadigol - a hollol cwl! Nes i rili fwynhau a gethon ni groeso arbennig iawn.
Frizbee yw band y daith yr wythnos yma a roedd pobol Port wrth eu boddau â 'ogia Blaena! Nath Gola Ola hefyd ware - a gethon nhw hefyd ymateb arbennig. Be sy'n rhyfedd - y tro cynta' nes i gyflwyno taith ysgolion - Gola Ola a Frizbee oedd y bandie - felly ges i deimlad rhyfedd - fel bo fi'n dod adre', er bo fi filltiroedd i ffwrdd o Bontypridd.
Ma Huw Evans ac Ed Holden di bod yn Ysgol David Hughes heddi' - a fory fi fydd yn rocio Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Felly os chi'n ddisgybl yn yr ysgol honno - welai chi 'na!
Traaaaa
M xxx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.