Archifau 23 Medi 2008

Euros Childs yn stiwdio C2

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|13:43, Dydd Mawrth, 23 Medi 2008

Sylwadau (0)

Roedd Euros Childs yn westai ar y rhaglen wythnos yma.

Fi di bod yn ffan o sgwennu Euros ers i fi glywed ei fand blaenorol, Gorky's Zygotic Mynci, ar Radio Cymru yn y nos pan o'n i yn ysgol. Dath y band i ben a nath Euros ryddhau tri albym ar label Wichita.

Roedd Chops yn gasgliad diddorol, bron fel mixtape o ganeuon a syniadau roedd e wedi bod yn gweithio arnyn nhw, ac roedd Bore Da yn llawn tiwns pop gwych fel Sandalau, Ar Lan y Mor a Cwtsh.

Roedd The Miracle Inn falle yn albym mwy aeddfed, ond Cheer Gone yw'r un hyfryta eto. Wedi ei gynhyrchu yn Nashville mae'r cynhyrchu gan Mark Nevers (Lambchop a llu o fandie gwych erill) yn dod a'r offerynnau i'r amlwg yn esmwyth a mae geirie a canu Euros yn feloncolaidd a arbennig.

Roedd e'n hyfryd cal sgwrs gyda Euros, nath e ddewis tiwns gan Moondog i chware, a sengl newydd Threatmantics. Mae'r clawr yn wych;

Clawr sengl newydd y Threatmantics

Ond mae'r trac hyd yn oed yn well.