Archifau 8 Medi 2008

Bestival: Gwisgo welis fy nghariad!

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|12:55, Dydd Llun, 8 Medi 2008

Sylwadau (0)

Helo eto.

Heno ar y rhaglen bydd Yr Ods yn dod mewn i ddeud helo i ddathlu'r ffaith bod ei sengl cynta nhw allan ar label Ciwdod. Mae hyn yn newyddion da o lawenydd mawr achos mae'n wych iawn.

Yn ddiweddar fi di bod yn rhedeg rownd y lle a neud yn siwr bod diwedd yr haf yn llawn o gerddoriaeth da. Es i i Bestival ar Ynys Wyth ar y dydd Gwener. Fi erioed di gweld gymaint o fwd mewn gwyl, ond yn ffodus roedd gen i welis. Ond welis maint 6 fy nghariad, felly roedd o braidd yn boenus cerdded o gwmpas yn chwilio am fandie!

Nes i weld bach o Santogold, Pendulum, My Bloody Valentine a Kissy Sell Out. Gath y llwyfan on i fod djo ar gael ei ganslo am weddill y noson felly nes i ddim neud fy set djo fel on i fod i neud. Dim ond un lle oedd i fynd - neidio ar gwch, tren a car i Aberteifi. Roedd y cwmni dillad Howies wedi trefnu pewnwythnos o drafodaethau ar sut i fod yn gwmni gwyrdd ac yn y blaen, a nes i djo set llawn tiwns bownslyd ar ol i fand gwych o America (sy'n byw yn Bwlgaria) chware set - A Hawk and a Hacksaw yw ei henw nhw.

Yn fuan ar y rhaglenni nos Lun a Mawrth - sesiwns newydd gan Rufus Mufassa (y rapwraig o Bontypridd), y Zimmermans, Alun Tan Lan, Colorama, a gobeithio y bydd Euros Childs yn dod mewn i'r stiwdio i ddeud helo a chyfle I ni glywed tracs oddi ar ei albym newydd arbennig - Cheer Gone...

Hwyl am y tro

Huw.