Archifau 21 Awst 2008

Gŵyl goll ar lan y môr

Categorïau:

Gareth Iwan|17:48, Dydd Iau, 21 Awst 2008

Sylwadau (0)

News image

Helo bobl

Ma tymor gwylia'r haf yn ara deg dod i ben, ond coeliwch neu beidio, mae na un bach arall ddifyr iawn ar fin cael ei chyhoeddi. Sôn ydw i am Ŵyl Traeth Coll. Os ydi'r enw'n canu cloch, falle eich bod chi wedi bod un ai yng Ngŵyl Pentre Coll neu Gŵyl Gardd Goll - y 'prequels' i'r ŵyl yma.

Ma Dilwyn Llwyd o Yucatan sy'n trefnu i weld yn hoff iawn o chwara chicken hefo'r tywydd, yn gweld pa mor bell all o wthio petha! Mi oedd Pentre Coll dan do, mi oedd Gardd Goll yn yr awyr agored, ac mae Traeth Coll ar lan y môr!

Ma na ychydig o ddryswch wedi bod ynglŷn â'r line-up a'r dyddiad felly dyma gadarnhau ma Medi'r 7fed ydy'r dyddiad ar draeth Porth Iago ger Rhoshirwaun. Mi oedd Pentre Coll a Gardd Goll yn ddwy o'r gwylia gore yr haf yma, felly pob lwc i Dilwyn, ac os fedrwch chi, ewch i fwynhau.

Mi fydd Gethin Evans, un arall o'r trefnwyr ar raglen Lisa heno, ac mi fydd Dilwyn ei hun ar raglen Huw Stephens nos Fawrth hefo newyddion difyr iawn am Yucatan.