Archifau 5 Awst 2008

Helo! Dyma Jeni!

Jeni Lyn|14:53, Dydd Mawrth, 5 Awst 2008

Sylwadau (0)

Eistedd o flaen y cyfrifiadur ar y maes yn yr iglwww ac mae'n bwrw glaw yn sobor iawn - ond dim ots oherwydd mae na ddigon o gerddoriaeth byw arbennig ar y maes. 'Dwi newydd fod yn gwrando ar Brigyn yn canu ar lwyfan perfformio 1 ac mi fyddai'n mynd yn fy ol mewn munud i wrando ar Fflur Dafydd a'r Barf!

Uchafbwynt y Steddfod hyd yn hyn i fi yw clywed y grwp sydd wedi ennill Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn chwarae ar Stondin Nolan ar y maes ddoe. Bandana 'di enw'r grwp ac mae nhw'n dod o ardal Bethel a Caernarfon. Disgyblion o Ysgol Brynrefail (yr ysgol ora yn y byd!!) a Syr Hugh Owen ydi Robin, Gwilym, Sion a Tomos. Os cewch chi gyfle i'w gweld nhw yna ewch ar unwaith. Dyna ni, dwi'n mynd rwan achos mae Magi Dodd yn fy ngwthio i allan o'r iglwww i fynd yn ol i wrando ar y bandia! Os fyddwch ch wrth y llwyfan perfformio cyn diwedd yr wythnos, welai chi yna!

Mae'n bwrw glaw, so dal fy llaw... la di la di la

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|14:24, Dydd Mawrth, 5 Awst 2008

Sylwadau (0)

P'nawn da o iglwww c2/mosgito/ffeil ar faes y steddfod,

Fel ellwch chi ddyfalu o deitl fy mlog - mae'n bwrw glaw. Yn sobor iawn. Ond mae'n bell o fod yn bnawn anghynes ar y maes. Ma rhywbeth am y ffaith bo hi'n bwrw glaw yn y steddfod, yn neud i bobol fod yn fwy parod i siarad â'i gilydd ("Ooo - ma'r tywydd 'ma'n ofnadw nagyw e?"), yn fwy positif ("Mae'n mynd i fod yn braf ddiwedd yr wythnos. Boiling!"), ac yn fwy swnllyd! Wir! Ma lot mwy o swn ar y maes pan mae'n bwrw glaw. ("aaahhh - fi newydd gamu mewn pwll o ddwr!")

Ond yr hyn dwi'n trio gyfleu yw does dim ots sut ma'r tywydd - ma wastad rhywbeth i'w neud a rhywun i'w weld ar y maes.

A chofiwch ma be ma pobol yn wisgo yn y glaw yn ddiddorol iawn. Dyma pwy fi di gweld - a be ma nhw di gwisgo rhwng p'nawn ddoe a heddi.

  • Daf Du (trowsus combat brown gole a chrys glas gole)
  • Hywel Gwynfryn (crys llewys byr a throwsus)
  • Huw Evans (blazer glas tywyll gyda bathodynne, jins sgini tywyll ac esgidiau gwyn)
  • Guto Brychan, sy'n trefnu gigs Maes B (crys t Gwyl Swn a jins)
  • Jeni Lyn (fest gwyn, cardigan las a jins neis iawn)
  • Swci Boscawen (crys a leggins du - a'i cholur a'i gwallt yn edrych yn ffantastic fel arfer)
  • Osi Sibrydion (crys, jins a chôt ledr)
  • Mei Sibrydion (crys, jins a top adidas)
  • Huw Stephens (crys glas a gwyn, jins a daps adidas)

Felly, dyna sut ma'r ffasiwn yn edrych ar y maes - ac ym maes B hyd yma. Jins a daps adidas yw'r pethe mwya poblogaidd hyd yma. Ond gall bobeth newid erbyn diwedd yr wythnos.

Fi? Fi'n gwisgo siorts, bwts a chrys t Steddfod Abergwaun 1986. Y crys t yma oedd hoff un Grav arnai (mae'n goch - fel y sgarlets!) a chan gofio am y cyngerdd sy'n cael ei gynnal heno i gofio'r gwr bonheddig o Fynydd y Garreg - dwi'n gwisgo'r crys â blachder heddi.

xxx