Nos da o Ddolgellau
A dyna ni o'r Sesiwn am nos Wener - ond fyddwn ni nôl dydd Sadwrn o ganol dydd ymlaen gyda mwy o straeon o gefn llwyfan a lluniau ohono chi yn mwynhau'r ŵyl!
Os golloch chi rhaglenni heno, cliciwch ar y lincs eto i wrando arnyn nhw yma ar y we! Maen nhw'n cynnwys RIchard Rees a Daf Du yma ar y Marian yn cyflwyno uchafbwyntiau o setiau Man, Justin Adams, Bryn Fôn, Natasha Atlas, Sibrydion a'r dyn ei hun - Huw Chiswell.
22:00-00:00 - Rhaglen arbennig Daf Du a Richard Rees o'r Sesiwn Fawr
Mae rhaglenni dydd Sadwrn ar Radio Cymru yn cychwyn am 12:30, gyda setiau byw yn cynnwys Steve Eaves a Cowbois Rhos Botwnnog hyd at 17:00.
Fyddwn ni wedyn nôl ar yr awyr am 20:00 hyd at ddiwedd y noson - peidiwch colli perfformiad unigryw gan Endaf Emlyn - a'r Saw Doctors fydd yn dod i'r ŵyl i ben am ganol nos.
Welwn ni chi fory!
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.