Gwelais feddygon
Mae'r Saw Doctors newydd ddechrau ar farathon o set byw (mae'n debygol o bara dros awr a hanner yn ôl y sôn!) i ddod â Sesiwn Fawr 2008 i ben - ac maen nhw wedi cael croeso swnllyd a chynnes gan dorf fawr a llawen ar y Marian yn Nolgellau.


Bydd Radio Cymru yn ymuno â nhw'n fyw ymhen ychydig, hyd at ddiwedd eu set am ganol nos.
Ond cofiwch hefyd am ein rhaglen arbennig prynhawn fory - uchafbwyntiau'r dydd o'r Theatr Acwstig yn y dref, o 2 - 4.20pm. A dewch yn ôl at wefan C2 ddydd Llun pan fyddwn ni'n ychwanegu sgyrsiau fideo cefn llwyfan, a'r setiau byw i chi fwynhau unwaith eto.
Mae wedi bod yn benwythnos cofiadwy hyd yn hyn, ac mae'n siwr fydd y partïo yn parhau am dipyn yn Nolgellau heno... ond am heno, oddi wrth Blog C2 a gweddill criw Radio Cymru sydd yma gefn llwyfan - nos da!
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.