Archifau 30 Gorffennaf 2008

Beth i'w wneud wythnos y Steddfod...

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|18:50, Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Os chi ddim yn gyfarwydd gyda Caerdydd ac yn chwilio am bethe i neud rownd y ddinas yn ystod y Steddfod, pan chi ddim yn cystadlu mewn unawd drama gerdd neu yn mosho yn gigs Maes B a'r Gymdeithas, ga i awgrymu:

1. Mynd i siop Spillers yn yr Ais. Y siop records hynaf yn y byd, a'r lle gore i brynu cerddoriaeth, yn cynnwys lot o cd's Cymraeg, yng Nghaerdydd. Mae chwiorydd Todd yn siarad Cymaeg hefyd os chishe deud helo.

2. Mynd i Dempseys. Mae'r dafarn gyferbyn â'r castell ar yr un stryd â Clwb Ifor bach lle mae gigs y Gymdeithas eleni. Mae'r awyrgylch yn un da ac yn gartre yn y nos i lot o gerddorion y ddinas.

3. Mynd i Marcellos. Yn Arcêd y Castell, gyferbyn â'r castell. Bwyd Eidaleg anhygoel.

4. Mynd i Farchnad Caerdydd. Lle anhygoel gyda lot o fwyd rhad a da, a siop recordiau ail law Kelly's lan lofft. O, a lot o anifeiliaid mewn caetsys lan lofft hefyd. Ewch mewn drwy fynedfa Heol y Santes Fair neu'r Ais.

5. Marchnad Jacobs. Dim bwyd fan hyn, ddim yn bell o'r orsaf drenau. Lot fawr o bethau ail-law, o ddillad i lamps i records a llyfre comics.

Beth sy'n gwneud Eisteddfod dda?

Categorïau:

Criw C2Criw C2|18:45, Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Cwrdd a hen ffrindiau ysgol neu'r coleg? Gigs? Tywydd braf?

Gad dy sylwadau i adael i ni wybod.