Archifau 9 Gorffennaf 2008

Mwy o Huw o Glasto

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|16:48, Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Helo helo.

Ar ôl y rhaglen o Glastonbury wthnos dwytha, roedd ne gwpl o gyfweliadau ar ôl i'w darlledu ar y rhaglen nos Lun sydd newydd fod. Mae Doug mewn band o'r enw Sky Larkin ac o'r Wyddgrug yn wreiddiol, er bod y band erbyn hyn yn byw yn Leeds. Mae nhw'n itha gwych yn fyw, fi di gweld nhw'n chware cwpl o weithiau nawr ac ma nhw wedi recordio albym yn America yn ddiweddar. Enw i'r dyfodol yn sicr.

Roedd y sgwrs arall gyda Carwyn Ellis, sy'n recordio dan yr enw Colorama. Mae ei diwns ar ei Myspace yn dweud y cyfan; mae'r boi yn dalent enfawr ac mae'r gân Dere Mewn yn un arbennig. Roedd e yn Glastonbury achos fod e yn chware fel aelod o fand Edwyn Collins.

Mr Huw Evans fydd yn edrych ar ôl y rhaglen nos Lun a Mawrth wthnos nesa. Nai weld chi mewn pythefnos!

Sengl newydd Gwyneth Glyn a Cowbois

Categorïau:

Gareth Iwan|11:47, Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Ma sengl newydd Cowbois Rhos Botwnnog a Gwyneth Glyn wedi bod 'chydig bach fel Sion Corn. Does neb wir yn siwr os dio'n bodoli, ond mi fysa'n neis tasa fo yn wir. Yn achos Cowbois a Gwyneth, mae dolig wedi cyrraedd go iawn.

Gwyneth a'r Cowbois

Gwyneth a'r Cowbois ar eu ffordd i Rodeo ym Mhen Llŷn yn y fan. Falle.

Mae gen i gopi o'r sengl, ac ma hi'n hollol wych. Tair cân country ar ei ora. Fersiwn newydd o gân draddodiadol ydy'r brif gân - Paid A Deud, wedi ei recordio yn steil unigryw Coboiws, ond gyda llais hyfryd Gwyneth a pedal-steel anhygoel gan Euron Jones hefyd. Wedyn ma na fersiwn hwyliog a chyflym o Mhen i'n Llawn Ohonat Ti, yn wreiddiol oddiar Tonau, hefo sŵn pedal steel Jos yn distortio'n wych yn y cefndir, a gitars y Cowbois yn gwthio'r rhythm ymlaen. A wedyn i gloi ma na fersiwn hiraethus o Musus Glaw.

Ma gan canu gwlad enw eitha dodgy yma yng Ngymru, ond mae'n fath o gerddoriaeth dwi wrth fy modd hefo fo ar ei ora, a gobeithio y gwnaiff y sengl yma newid meddylia rhai pobl am y math yma o gerddoriaeth.

Bydd Lisa'n chwarae'r caneuon nos Iau am 10pm, ac mi fydd Cowbois a Gwyneth hefo Lisa nos Wener am 10pm.

Ma Sion Corn wedi cyrraedd, ac mae o'n gwisgo crys check.