Os da chi'n mynd i Ŵyl Pentre Coll...
... dyma neges gan Dilwyn Llwyd sy'n trefnu i helpu chi gyrraedd (wrth reswm - dyw Pentref Coll ddim yn mynd i fod yn hawdd i'w ffeindio...)
Wrth drafeilio o Nefyn a chyraedd Rhoshirwaun, mae anghen troi i'r chwith lle bydd arwydd Felin Uchaf (wrth y capel) ac un Gŵyl Pentre Coll erbyn hynny.
Wrth drafeilio o ochr Abersoch fydd na drofa i'r dde ac arwydd ychydig ar ôl Rhiw.
Mae modd cael bws i Rhoshirwaun a cherdded o fanne - tua dwy filltir.
A ma angen i bobl ddod â llaeth mwnci efo nhw achos fydd ne ddim bar alcohol - croeso i bobl ddod â chwrw a gwin a be bynnag.
Os ych chi'n mynd i'r ŵyl, ac yn ffeindio'ch ffordd nôl yn saff, postiwch isod i ddweud sut aeth hi.
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.