Y diweddara gan Huw
Helo eto.
Gaethon ni seshwn hyfryd iawn ar y rhaglen nos Lun gan Nia Morgan. Mae hi o Fachynlleth yn wreiddiol ac yn byw ym Manceinion ers degawd. Sesiwn hyfryd iawn wedi eu chynhyrchu gan Mr John Lawrence.
Mae llwyth o electronica diddorol yn neud fi'n hapus dyddie yma. Mae remixes o dracs Messner gan Orcop a Plyci yn dda iawn, a tracs newydd nath Y Lembo anfon ata i. Mae Derwyddon, Radio Lux, Cofi Bach a Dybl L i gyd yn cal eu trin yn fentrus gan y cynhyrchydd ac yn swnio'n wych.
Mae lawrlwythiad am ddim o www.highqualityrecordings.co.uk o 'Re-renaissance of the Celtic Harp' ar label Safon Uchel. Albym ddaeth allan yn 1971 gan Alan Stivell, wedi ei remicsio a'i samplo ydi hwn, ac yn sdwff difyr iawn. Roedd e'n hyfryd cael cwmni Mr Recordiau Safon Uchel (Geraint Ffrancon) ym Mryste, lle mae'n byw, yn ddiweddar. Ro'n i yna ar gyfer gŵyl Venn - lot o bandie rhyfeddol o dda gyda enwau gwych fel Hauschka, Munch Munch, Flying Lotus, a MC Mabon yn neud gig gwerth chweil!
Gyda Glastonbury ar y gweill, fyddai yng ngŵyl Sonar yn Barcelona penwthnos yma i glywed y gerddoriaeth o bedwar ban byd. Mae Neon Neon, Daedelus a Madness ymysg rheiny'n sy'n chware. Gewch chi'r hanes ar y rhaglenni wthnos nesa.


Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.