« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Rhaglen hir

Categorïau:

Criw C2|17:04, Dydd Iau, 29 Mai 2008

Desg Gareth

Henffych

Wrthi'n paratoi rhaglen Lisa at heno - rhaglen hir heno, gan fod yr Urdd ymlaen tan 8.30pm, a Magi awydd noson o wylia. Felly, dyma sut ma Lis am lenwi 2 awr a hanner rhwng 8.30pm a 11pm:

  • Tracia newydd gan Pop Levi, Frizbee, Sigur Ros, Goldfrapp a Brigyn (ma cân Pop Levi yn anhygoel o dda)
  • Trac exclusive gan Y Llongau - un o brojectau Dyl Mei sydd yn ei eiriau fo yn "ruff as **** ond dwi'n licio fo felna"
  • Mi fyddai'n cyhoeddi pa artistiaid fydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan BBC Yn Cyflwyno... yn Glastonbury eleni (dwi'n andros o hapus hefo un o ddewisiadau'r panel - cliw bach i chi: ma hi wedi gwneud sesiwn i Lisa eleni...)
  • Sesiwn gan grwp ifanc newydd o Gaernarfon - Y Bandana
  • .. a ryw 25 o ganeuon eraill fydd Lisa wedi eu dewis

Mi neith yr amser hedfan...

Hwyl, Gar