Gorwel Owen yn y Galeri
Un o'r petha gora am weithio i C2 (heblaw am gael fy nhalu am wrando ar gerddoriaeth wych drwy'r dydd) ydy'r cyfle i gyfarfod pobl ddifyr.
Ryw bythefnos yn ôl, fues i draw yn Galeri, Caernarfon ar gyfer agoriad gwaith celf newydd Gorwel Owen. Mae Gorwel yn gyfansoddwr a cherddor, ond os ydy'r enw'n canu cloch, mae'n bosib eich bod wedi clywed amdano oherwydd ei fod o wedi cyd-gynhyrchu albums anhygoel fel Fuzzy Logic gan y Super Furries a Spanish Dance Troupe gan Gorkys.
Ta waeth am hynny, mae ei waith celf yn Galeri yn ddifyr iawn. Be sy na ydy tri cyfrifiadur hefo 'motion sensors'. Wrth i chi symyd o flaen y sensors, mae yna swn banjo yn dod o'r cyfrifiadur, sy'n newid ychydig fel da chi'n symyd. Mae sŵn banjo gwahanol ar bob cyfrifiadur - ac fe allwch chi glwyed Gorwel yn son mwy am y cwestiynau sy'n cael eu gosod gan y gwaith drwy glicio isod.
Gorwel yn sôn am ei waith celf
Hefyd yr wythnos dwetha, ges i'r pleser o fynd i dai Gai Toms a Dewi Prysor hefo Rhys Mwyn. Mae gan Rhys gyfres o chwech o raglenni yn mynd allan ar nos Fercher am 10pm ar C2, yn trio gweithio allan be sy'n gwneud i rai trefi yng Nghymru gynhyrchu grwpiau roc gwych. Da ni am fynd i Aberteifi, Bethesda, Llanfaircaereinion, Llanrwst, Caerdydd, a dechra fydda ni yn Blaenau. Mi oedd Gai a Dewi yn siarad yn hynod o ddifyr am be sy'n gwneud Blaenau yn unigryw - gewch chi glwyed be ddaru ni recordio heno am 10pm!
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
Mae gan Gorwel gwpwl o draciau ar y casgliad diweddar Pedair Awr yng Nghymru Fydd / Brave New Wales.
Mwy o wybodaeth fan hyn!