« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Trefnu gig Cerys

Categorïau:

Criw C2|13:02, Dydd Mercher, 5 Mawrth 2008

Heno ar C2 ma na raglen arbennig - gig Cerys Matthews, wedi ei recordio ym Mhafiliwn Sioe Môn nos Sadwrn dwytha. Mi fydda i'n hynod falch o'i chlywed hi'n mynd allan, achos da ni wedi bod yn gweithio ar y rhaglen ers mis Medi dwetha, ymhell cyn i Cerys fynd i'r jungle.

Y man cychwyn oedd ebostio Cerys a'i asiant i weld a fydda ganddi ddiddordeb mewn cael Radio Cymru i recordio un o'r gigs ar ei thaith oedd, ar y pryd, i fod i ddigwydd mis Hydref. Fe gawsom ni ateb digon cadarnhaol - "gret, ond dim rwan. Rywbryd flwyddyn nesa efallai?" Ar y pryd, doedd neb ohona ni'n gwybod am y jungle, felly doedda ni ddim yn gwybod pam cynnig y flwyddyn nesa - ond fe ddaeth hynny'n glir yn fuan!

Ddechrau'r flwyddyn wedyn, fe gysylltodd Rhys Mwyn ar ran Cyngor Sir Fôn yn cynnig i ni recordio'r noson Dydd Gŵyl Dewi - ac ar ôl ychydig o waith perswadio, fe gytunodd Cerys. Un o'r amodau oedd fod Charlie Francis yn cymysgu'r set i ni. Mae CV Charlie yn anhygoel - yn cynnwys cymysgu R.E.M yn Glastonbury a Live 8 - ac mi oedd hi'n bleser gweithio hefo fo. (Gewch chi glywed y "mix" heno!)

Trefn y diwrnod? Cyrraedd am 12pm hefo Charlie, Ems a Deian (criw sain Radio Cymru) gyda'r prawf sain am 2pm. 5pm - recordio cyfweliad Lisa Gwilym hefo Cerys, yna Lisa'n cyflwyno Jeb Loy Nichols ar y llwyfan am 8pm, Bryn Fon am 9pm a Cerys am 10pm. Set wych, yna nôl i Fangor am 10.30am i ail-gymysgu'r set tan 5pm. Pnawn ma mi fydda i'n dewis pa ganeuon i''w chwara, ac ychwanegu cyfweliad Lisa rywle yn y canol, a dyna ni.

Lluniau a chlip o'r cyfweliad ar gael yn fa'ma a chofiwch wrando heno am 10!