« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Y Briodas Fawr!

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|12:00, Dydd Llun, 27 Awst 2007

Dydd Gwener a mi roedd yr amser wedi dod i'r Briodas Fawr. Roedd Lee & Anna yn priodi ddydd Gwener a fi yn neud y colur i Anna a'r morynion priodas, OND, hanner ffordd fyny i'r gogledd, mi nes i sylwi fy mod wedi anghofio'r colur i gyd (a ddim colur rhad chwairth! wps!) Wedi cyrraedd y ty, roedd yn rhaid i mi dorri'r newyddion i Anna am y colur - oni wir ddim isho sbwylio ei diwrnod hi, ond yn lwcus i mi, dwedodd hi wrthai am "beidio a phoeni a mynd i'r llofft i nôl ei make-up hi". Diolch Anna! Dechreuais efo'r morynion, ond gorfo ni olchi hwnnw gyd i ffwrdd a dechre eto. O'r diwedd daeth popeth at ei gilydd a phawb yn falch o'u make-up. Roedd yn ddiwrnod lyfli. Pob lwc i'r dyfodol ichi Lee & Anna.

Dydd Sadwrn, fues i a Magi i fyny i Geredigion i Rasus Tregaron - felly, roedd rhaid mentro ar y ceffyle yn doedd?! Chware teg, mi ddaru Huw Evans, Cadeirydd Clwb Trotian Tregaron ddod a'i geffyl rownd i'r cylch i mi gael troi fy llaw ar fod yn joci! Ar y cart a fi....a dyma'r ceffyl yn neidio (fel y "Lone Ranger" ers talwm)! Scary neu be?! Roedd fy shorts gwyn bron a troi'n frown!! Ond, wedi i'r ceffyl setlo, fues i'n mynd rownd y trac efo Huw Evans yn gafael yn dyn ar y ceffyl!! Oni'n reit falch o gael fy nhraed nôl ar y ddaear!

Tan y tro nesa...

Hwyl

Glyn

x