Mynd nôl i Flaenau Ffestiniog!
Ers 'Steddfod yr Urdd, dwi di bod yn hooked ar Big Brother 8. Bob cyfle dwi'n gael dwi'yn gwylio a hefyd dwi'n mynd ar y we i gael mwy o hanes y criw gwallgo yn y ty. Dwi mor falch bo na fwy o ddynion yn y ty erbyn hyn, mae o'n gwneud y peth yn lot mwy diddorol!
Nos Fercher ar C2, mi wnaethon ni wneud yr arferol sef 'Glyn yn Galw', a wythnos yma yn cymeryd rhan mi oedd criw o Landrillo ger Corwen. Mi oedden nhw'n mega funny, os wnaethoch chi golli'r rhaglen, mae o'n werth gwrando eto, a hefyd doswch draw i wefan C2 i weld lluniau o Jen Ty Cocyn (dafad) yn y dafarn leol!
Dwi hefyd wedi dechrau ffilmio eitemau ar gyfer y gyfres ddiweddara o BBLB. Wythnos yma ges i fynd i'r Rhondda am y tro cyntaf i gyfweld â teulu Laura (y ferch Gymraeg sy'n BB). Mi oedd pobl y Rhondda yn mega cool, ac mi oedd y lle a'r bobl yn fy atgoffa fi o fod adre' yn Blaenau.
Ac adre i Blaenau Ffestiniog es i dydd Iau er mwyn agor siop Barnados newydd. Dwi'n gwneud dipyn ir achos, ac iddyn nhw nes i godi arian drwy redeg y marathon. Mi oedd dod adre i Blaenau i agor y siop yn 'good timing' gan fod rhaglen gyntaf y gyfres Swn Sadwrn yn dechrau yn Blaenau Ffestiniog ar y dydd Sadwrn.
Nos Wener mi oedd yna gig anferth yn Blaenau fel rhan o Wyl Car Gwyllt. Gig 'nostalgia' oedd o'n cael ei alw, gan fod lot o fandiau hen a newydd yr ardal yn perfformio. Nes i ddim gweld lot o'r bandiau, ond mi wnes i glywed nhw i gyd. Mi wnes i dreulio'r rhanfwyaf o'r noson yn siarad efo hen ffrindiau.
Ar ddiwedd y noson o ni eisiau bwyd, felly es i'r siop kebab, ond mi oedd o wedi cau, felly adre i gael pork pie es i!
Nes i really mwynhau gweithio ar y rhaglen dydd Sadwrn, ges i gyfle i ddangos i Magi a gweddill y criw sut le ydi Blaenau Ffestiniog. Yn anffodus mi oedd yn rhaid i ni gyd adael am tua 4, gan fod gennai PA yn Nghasnewydd gyda'r nos! Gwyl Car Gwyllt - dechrau da i'r haf!
Tan tro nesaf
Glyn
xx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.